DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau Cystadleurwydd Mentrau a Mentrau Bach a Chanolig (Dirymu) (Ymadael â’r UE) 2019

DYDDIAD

8 Ebrill 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau Cystadleurwydd Mentrau a Mentrau Bach a Chanolig (Dirymu)  (Ymadael â’r UE) 2019 ("Rheoliadau 2019”)

 

Y gyfraith sy'n cael ei diwygio

 

Offerynnau Ewropeaidd sy'n Uniongyrchol Gymwys

.

·         Mae Rheoliad yr (UE) 1287/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor o'r 11 Rhagfyr 2013 sy'n sefydlu Rhaglen ar gyfer Cystadleurwydd Mentrau a mentrau bach a chanolig (COSME) (2014-2020) a diddymu Penderfyniad Rhif 1639/2006/EC. 

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Nid oes unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol  Cynulliad Cenedlaethol Cymru nac ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Diben y diwygiadau

 

Mae Rheoliadau 2019 yn dirymu deddfwriaeth uniongyrchol bresennol yr UE sy'n llunio deddf y DU sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen Cystadleurwydd Mentrau a mentrau bach a chanolig (COSME) 2014-2020).

 

Mewn sefyllfa o 'ddim cytundeb', ni fydd Rheoliad yr UE bellach yn effeithio ar gyfraith y DU ac nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn darparu cyllid ar gyfer rhaglen COSME wedi ymadael.

 

Os na fydd cytundeb, mae y DU wedi datgan y bydd yn gwarantu cyllid yr UE ar gyfer sefydliadau'r DU sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i'r Comisiwn Ewropeaidd yn uniongyrchol, ble y gallant gymryd rhan fel trydydd gwledydd, a pharhau i gystadlu ar gyfer cyllid, a'i ennill, tan ddiwedd 2020. Mae hyn yn cynnwys prosiectau UK COSME, ble y mae'r prosiectau hyn yn parhau yn hyfyw wedi ymadael Heb Gytundeb.

 

Ar gyfer elfen Rhwydwaith Menter Ewrop (EEN) y gweithgarwch COSME yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, mae gan Lywodraeth y DU drefniant i ddarparu gwarant drwy UKRI, y prif bartner cyflenwi presennol.

 

Mae pwerau deddfwriaethol cyfredol ar gyfer y tanysgrifennu gan Drysorlys EM drwy Adran 8 Deddf Datblygu Diwydiannol (1982) i gyflawni prosiectau sydd ddim yn dod o dan Rwydwaith Menter Ewrop (EEN) ac ar gyfer prosiectau UK EEN sy'n derbyn cefnogaeth COSME, y Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil (HERA) sydd â phwerau digonol ar gyfer cyflenwi.

 

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig  i'w gweld yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/75gQyf3H

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran, ac ar ran, Cymru am resymau'n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.